Job Description:
Job information
Swyddog Safle (Civic Offices) from the Company
Vale of Glamorgan Council, this latest
Swyddog Safle (Civic Offices) job vacancy is located in the city
Barry located in the country
United Kingdom . This latest job opening is open to job seekers who have the latest education / graduate
GCSE . Job Vacancies in this
Government field have been opened and published up to the specified time.
Job Responsibility:
Amdanom ni Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i'r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau'r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â'r safonau angenrheidiol.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i flaenoriaethu tasgau a helpu i gadw cofnodion cywir yn gysylltiedig â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Ynglŷn â'r rôl Manylion am gyflog: Grade 4 £23,500 - £24,294 pa
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener. 2 shift pattern between wk 1 06:30 - 14:30 - wk 2 14:00 - 22:00 (Fri 12:00 - 20:00)
Amser tymor 37awr/wythnos
Prif Waith: Civic Office
Temporary - FTC 1 year
- Cynnig presenoldeb diogelwch corfforol, yn fewnol ac allanol, mewn eiddo sy'n berchen i'r Cyngor er mwyn atal lladrad, tân, difrod / fandaliaeth a thresmasu.
- Cyflawni patrolau rheolaidd o eiddo, yn fewnol ac allanol, yn ystod shifft a monitro offer teledu cylch cyfyng (lle mae wedi'i osod), gan adrodd ar unrhyw achosion mewn modd amserol i'w Oruchwylydd a'r Adran Cyfleusterau.
- Sicrhau bod safleoedd yn cael eu hagor/cau a bod systemau larwm yn cael eu gosod yn unol â'r cyfarwyddiadau a sicrhau cyn lleied â phosib o achosion o larymau ffug/gwallau gan ddefnyddwyr.
- Cynorthwyo a monitro pob ymwelydd â'r safle, gan gynnwys contractwyr, i sicrhau eu bod dim ond yn cael mynediad i'r ardaloedd cywir.
- Ymgyfarwyddo ag offer a pheiriannau'r adeilad, megis systemau gwresogi, i sicrhau bod y safleoedd yn weithredol cyn eu meddiannu.
- Cofnodi tymereddau dŵr yn gywir, am resymau Monitro Legionella, yn Llyfrau Log y Safle.
- Trefnu i glirio rhwystrau, cael gwared ar fater estron o sinciau, tai bach, a draeniau, a glanhau gollyngiadau yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod gylïau, draeniau ac ati yn rhydd o rwbel a bod y safle a'r tiroedd yn rhydd o sbwriel.
- Sicrhau mynediad clir a diogel i gerddwyr i'r safle yn enwedig mewn tywydd gwael (e.e. clirio eira, graeanu llwybrau a ffyrdd mynediad, gosod arwyddion rhybudd, cau ardaloedd peryglus).
Amdanat ti Bydd angen y canlynol arnoch::
- O leiaf 3 blynedd o brofiad yn y Diwydiant Diogelwch neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig â diogelwch.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n ymwneud â gofal cwsmeriaid.
- Gwybodaeth fanwl am swyddogaethau'r Gwasanaethau Adeiladau.
- Gwybodaeth sylfaenol am yr holl ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Diwydiant Diogelwch
- Gwybodaeth sylfaenol am reoli a datrys gwrthdaro
- Gwybodaeth dda am systemau rheoli diogelwch electronig
- Gwybodaeth sylfaenol am systemau a pheiriannau gweithrediadau adeiladau h.y. systemau gwresogi, ac yn gyfarwydd â hwy.
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd a'r gallu i lunio adroddiadau cryno a chywir
- Sgiliau llafar gwych, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu'n glir gydag unigolion ar bob lefel.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio corfforol.
- Yn gorfforol actif i allu cynnal patrolau troed rheolaidd ar y safle, y tu mewn/tu allan.
- Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD)
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau'n effeithiol ac effeithlon.
- Cadarnhaol a hunan-gymhelliant, gyda'r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw
- Y gallu i yrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol
Yn barod i weithio oriau anghymdeithasol ar sail rota (gan gynnwys ar y penwythnosau lle y bo'n berthnasol)
Gwybodaeth Ychwanegol Angen Gwiriad DBS: N/A
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Steve Ackerman 07989 446726
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: EHS00593
Keywords : Barry jobs
Closed Date :
2025-08-28