Job Description:
Job information
HYFFORDDWR from the Company
Cardiff Council, this latest
HYFFORDDWR job vacancy is located in the city
Cardiff located in the country
United Kingdom . This latest job opening is open to job seekers who have the latest education / graduate
GCSE . Job Vacancies in this
HYFFORDDWR field have been opened and published up to the specified time.
Job Responsibility:
Am Y Gwasanaeth Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n tîm Hyfforddiant Cyngor. Rydym yn darparu hyfforddiant, gwirio ansawdd a chyngor ar Fudd-daliadau Lles, Cyngor Ariannol, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Thai ar gyfer timau sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid.
Am Y Swydd Gan weithio yn Is-adran Cyngor yr adran Oedolion, Tai a Chymunedau, bydd y Hyfforddwr yn gyfrifol am lunio a chyflwyno hyfforddiant, cynorthwyo staff a chynnal gwiriadau ansawdd perthnasol. Byddwch yn datblygu ac yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi yn annibynnol, gan symleiddio deddfwriaeth gymhleth, i staff a rhanddeiliaid mewnol. Bydd gofyn i chi gynnal unrhyw wiriadau ansawdd cysylltiedig sydd eu hangen o fewn y gwasanaeth Tai a Chymunedau. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ateb ymholiadau cymhleth ym mhob maes yr ydym yn eu cwmpasu.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth fanwl am fudd-daliadau lles, cyngor ariannol a thai, ynghyd â phrofiad o gefnogi eraill a darparu hyfforddiant a chyngor anffurfiol. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi yn bersonol a thrwy Teams, meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a rhoi sylw i fanylion.
Gwybodaeth Ychwanegol Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2025.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw'n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Mae'r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Viki Hamm ar 07813 993380.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Job Reference: PEO04000
Keywords : Cardiff jobs
Closed Date : 2024-12-01